Neidio i'r prif gynnwy

Catalog API

Nid yw'r wefan hon ar gael yn y Gymraeg gan ei bod yn cynnwys cynnwys technegol ar gyfer sefydliadau GIG Cymru a'u cyflenwyr ac nid yw wedi'i bwriadu ar gyfer defnydd y cyhoedd yn gyffredinol.

 Mae cynyddu’r defnydd o wasanaethau Cymraeg wedi’i nodi fel un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn ei Strategaeth y Gymraeg 2050. Yn ogystal, roedd Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022, yn pwysleisio’r angen i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg fel safon graidd, gan amlygu’r angen i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg o fewn gwasanaethau cyhoeddus digidol.

Mae adran 4.11 o God Ymarfer Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 yn ymwneud â gwefannau a gwasanaethau ar-lein cyrff, gan gynnwys apiau. Y prif nod yw hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r Mesur yn rhoi effaith gyfreithiol i statws swyddogol y Gymraeg drwy alluogi gosod y safonau hyn.

Mae dylunio cynnwys yn Gymraeg a Saesneg o’r cychwyn yn fwy effeithlon, yn arbed amser ac yn sicrhau bod cyfieithwyr yn deall cyd-destun y cynnwys. Mae papur Comisiynydd y Gymraeg ar Ysgrifennu Triawd yn egluro manteision dylunio a chreu cynnwys dwyieithog sy’n ystyried y Gymraeg o’r cychwyn cyntaf.

Am gyngor pellach ar Safonau’r Gymraeg, cysylltwch â DHCW.Welshlanguage@wales.nhs.uk neu Gomisiynydd y Gymraeg yn post@cyg-wlc.cymru.