Neidio i'r prif gynnwy

Porth API

 

Mae porth API GIG Cymru yn darparu mynediad i’n pensaernïaeth agored ar gyfer sefydliadau iechyd a gofal Cymru, yn ogystal â’n partneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

O’r porth API gallwch hefyd:

  • gael gwybodaeth am iechyd ein gwasanaethau API
  • gofrestru eich apiau
  • greu a chynnal timau sy’n gallu gweinyddu eich ap
  • gychwyn ceisiadau technegol i gael mynediad at APIs

Mae’r porth API yn rhoi mynediad a reolir i APIs i sicrhau nad yw cyfrinachedd a chywirdeb data sensitif iawn yn cael ei beryglu. 

Rydym yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen ar ddatblygwyr a chyflenwyr systemau i ddatblygu yn erbyn ein hystod o APIs.

Ein cam cyntaf oedd datblygu catalog o APIs presennol GIG Cymru a darparu enghreifftiau ‘blwch tywod’ o’r APIs hyn. Mae APIs blwch tywod yn galluogi datblygwyr i ddysgu sut i ddefnyddio ein APIs heb effeithio ar ddata a chymwysiadau go iawn. 

Byddwn yn gwella ein APIs yn barhaus yn seiliedig ar adborth defnyddwyr.
 

Amgylcheddau 

Mae pum amgylchedd a fydd yn cynnal enghreifftiau o bob API ar bob cam o’u datblygiad.  Mae gan bob amgylchedd ei ddiben unigryw ei hun ac mae’n hygyrch i rolau defnyddwyr penodol.

 

Blwch tywod 

Gall unrhyw un roi cynnig ar APIs yn yr amgylchedd blwch tywod i weld sut maen nhw’n gweithio. Nid oes cysylltiad rhwng yr APIs hyn â rhwydwaith a data cynhyrchu GIG Cymru. Maent yn dynwared ymddygiad APIs cynhyrchu, felly gallwch chi arbrofi’n gyflym gyda’r APIs hyn i weld sut y gallent weithio o fewn eich cymhwysiad. 

 

Datblygiad

Bydd pob API newydd yn cael ei greu i ddarganfod a datblygu’r integreiddio rhwng y cymhwysiad defnyddwyr a rhwydwaith y GIG. Bydd datblygwyr o’r tîm API darparwyr yn defnyddio’r amgylchedd hwn.

 

Profi integreiddio system (SIT) 

Unwaith y bydd datblygiad cychwynnol yr API wedi’i gwblhau, rhaid i APIs fynd i amgylchedd SIT i gael eu profi’n drylwyr i sicrhau bod yr API yn gadarn ac yn bodloni’r holl ofynion diogelwch. Bydd profion llwyth yn pennu’r terfynau cyfradd derbyniol i’r API weithredu wrth gynhyrchu. 

Bydd profion treiddiad yn cael eu cynnal yn yr amgylchedd hwn gan beirianwyr profi allanol. 

Mae hwn yn gyfnod allweddol i gasglu gwybodaeth ar gyfer y broses gynefino. 
 

Profion derbynioldeb defnyddwyr (UAT) 

Unwaith y bydd API wedi cael sicrhad gan y broses gynefino, gall symud i’r amgylchedd UAT.  Mae hyn yn caniatáu i gymwysiadau sydd wedi’u cynefino gael eu dangos i’w grwpiau defnyddwyr i gael eu derbyn a symud i’r cam cynhyrchu fel gwasanaeth gweithredol.

 

Cynhyrchu 

Mae’r holl APIs sydd wedi’u cynefino ac sy’n weithredol yn bodoli yn yr amgylchedd cynhyrchu. Mae pob cais i APIs sy’n trin data sensitif yn cael ei archwilio. Caiff unrhyw ddigwyddiadau eu cofnodi ar y Ddesg Wasanaeth Genedlaethol. Caiff digwyddiadau mawr eu cefnogi 24/7 gan ddefnyddio rota galwadau y Tu Allan i Oriau.