Neidio i'r prif gynnwy

Rhyddid Gwybodaeth

 

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn darparu ffordd o hyrwyddo atebolrwydd a bod yn agored. O dan y Ddeddf, mae gan bobl yr hawl i ofyn am wybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys y rhai sy’n darparu gwasanaethau’r GIG yng Nghymru.

 

Yr hyn sy’n ofynnol o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gofyn bod:

  • Gwybodaeth yn cael ei darparu fel mater o drefn drwy gynllun cyhoeddi.
  • Canllaw yn cael ei ddarparu i’r wybodaeth hon.
  • Ymateb priodol yn cael ei ddarparu i geisiadau am wybodaeth.

 

Cynlluniau Cyhoeddi

O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae’n ofynnol i holl Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG Cymru, ynghyd â’r meddygon teulu, deintyddion, fferyllwyr ac optegwyr sy’n darparu gwasanaethau GIG, ddarparu cynllun cyhoeddi yn unigol. Mae’r cynlluniau hyn yn hysbysu’r cyhoedd sut a phryd y bydd y wybodaeth ar gael.

 

 

Gofyn am Wybodaeth

Rhaid i’ch cais fod yn ysgrifenedig a gellir ei bostio neu ei e-bostio. Rhaid i’ch cais gynnwys:

  • eich enw iawn - nid oes rhaid i ni ymateb i geisiadau a gyflwynir dan ffugenw;
  • eich cyfeiriad (mae cyfeiriadau e-bost yn dderbyniol);
  • disgrifiad o’r wybodaeth yr hoffech ei chael; ac
  • unrhyw ddewis o ran y fformat yr hoffech dderbyn y wybodaeth ynddo, e.e. copi electronig neu gopi caled.
     

Rhaid i chi dderbyn ateb i’ch cais Rhyddid Gwybodaeth ac, yn gyffredinol, rhaid i hyn fod o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais.

Yn gyffredinol, o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae gan unigolyn:

  • Yr hawl i gael gwybod a yw’r wybodaeth yn bodoli
  • Yr hawl i dderbyn y wybodaeth (oni bai bod eithriad yn berthnasol)

 

Cais am eich gwybodaeth eich hun

Os mai eich data personol eich hun yw’r wybodaeth dan sylw, yna dylech wneud cais am fynediad at ddata gan y testun o dan Ddeddf Diogelu Data’r DU 2018  a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) 2018  ac nid o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.  Rhyddid Gwybodaeth - Cwestiynau Cyffredin.

 

 

Beth i’w wneud os nad ydych yn fodlon â’r ymateb a gewch

Os nad ydych yn fodlon ag ymateb y bwrdd iechyd neu’r ymddiriedolaeth, gallwch gyflwyno cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Cewch hyd i fanylion ar sut i wneud hyn ar wefan yr ICO.

 

 

I leisio cwyn neu bryder am eich gofal neu driniaeth gan y GIG

Cwynion a phryderon GIG Cymru: Gweithio i Wella | LLYW.CYMRU

 

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 

1 Ffordd yr Hen Gae Pencoed CF35 5LJ

Telephone: 0300 790 0203 (Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg / We welcome calls in Welsh)

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg / We welcome calls in Welsh.