Neidio i'r prif gynnwy

Polisi Preifatrwydd

 

Pwrpas

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i bob darn o wybodaeth a gesglir neu a gyflwynir ar wefan gig.cymru. Mae’n nodi pa wybodaeth rydym yn ei chasglu, a sut a pham rydym yn ei chasglu. Fel y disgrifir yn narpariaethau  Deddf Diogelu Data 2018 y DU, rydym yn cymryd mesurau priodol i gynnal diogelwch eich data ar ein gwefan. Mae’r wybodaeth a gesglir wedi’i llywodraethu gan y datganiad preifatrwydd hwn ac mae defnyddio’r wefan hon yn dangos eich bod yn cydsynio i rannu eich gwybodaeth.

 

 

Y Wybodaeth rydym yn ei Chasglu

Gwybodaeth Bersonol

Nid ydym yn casglu gwybodaeth bersonol am ddefnyddwyr y wefan. Pan fyddwch yn cyflwyno data adnabyddadwy o’ch gwirfodd ar y wefan hon (mae hyn yn cynnwys cyflwyno ffurflenni adborth, tanysgrifiadau neu holiaduron), ni fydd yr wybodaeth a gyflwynwyd ond yn cael ei defnyddio i ymateb i’ch ymholiadau ac at y dibenion y cafodd yr wybodaeth ei chasglu. Nid ydym yn rhannu gwybodaeth defnyddwyr â thrydydd partïon.

 

Olrhain Defnyddwyr

Rydym yn monitro gweithgarwch defnyddwyr i wella'r cynnwys a ddarperir ar y wefan. Mae Google Analytics (G4) yn wasanaeth rhad ac am ddim a ddarperir gan Google sy'n cynhyrchu ystadegau manwl am y rhai sy’n ymweld â’r wefan. Mae'r wybodaeth a gesglir yn cynnwys cyfeirio/gadael tudalennau gwe, patrymau clicio, tudalennau gwe sydd fwyaf/lleiaf poblogaidd, hyd sesiwn, nifer yr ymwelwyr, math o borwr, system weithredu, ac ati. Cesglir gwybodaeth trwy ddefnyddio cwcis.

 

 

Sut Rydym yn Casglu Gwybodaeth

Google Analytics

Mae'r wefan hon yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddeg gwe a ddarperir gan Google Inc. (Google). Mae Google Analytics yn defnyddio ‘cwcis’ a chod JavaScript i helpu i ddadansoddi gweithgarwch defnyddwyr ar wefannau. Caiff yr wybodaeth a gynhyrchir am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) ei throsglwyddo a’i storio ar weinyddwyr Google yn yr Unol Daleithiau. Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon i gynhyrchu adroddiadau am weithgarwch defnyddwyr ar gyfer y wefan hon. Mae’n bosibl y bydd Google hefyd yn trosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd partïon lle y bo’n rhaid gwneud hynny yn unol â’r gyfraith, neu lle y bydd trydydd partïon o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google.

Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata eraill a gadwyd amdanoch ynghynt. Gallech wrthod defnyddio cwcis trwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr. Noder os bydd cwcis wedi’u diffodd, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio swyddogaeth lawn y wefan hon. Trwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cydsynio i Google brosesu data amdanoch yn y modd ac at y dibenion a amlinellir uchod. 

Darllenwch Bolisi Preifatrwydd Llawn a Thelerau ac Amodau Gwasanaeth Google am wybodaeth fanwl.

 

Beth yw Cwcis?

Mae cwcis yn ffeiliau bach y mae gwefannau yn eu rhoi ar yriant disg caled eich cyfrifiadur pan fyddwch yn ymweld â nhw. Mae cwcis yn trosglwyddo gwybodaeth yn ôl i wefannau bob tro y byddwch chi'n ymweld â nhw. Fe'u defnyddir i adnabod porwyr gwe, olrhain tueddiadau defnyddwyr a storio gwybodaeth am ddewisiadau defnyddwyr. Gallwch gyfyngu/analluogi cwcis ar eich porwr; fodd bynnag efallai na fyddwch yn gallu manteisio'n llawn ar holl nodweddion ein gwefan heb gwcis.

 

Sut i Analluogi Cwcis

I newid eich gosodiadau cwcis:

  • Internet Explorer: Ewch i ‘Tools’ yn y ddewislen > Dewiswch ‘Internet Options’ > Dewiswch ‘Privacy’ > ‘Disable / restrict cookies’
  • Firefox: Ewch i ‘Tools’ yn y ddewislen > Dewiswch ‘Options’ > Dewiswch ‘Privacy’ > ‘Disable / restrict cookies’
  • Opera: Ewch i 'Tools' yn y ddewislen > Dewiswch 'Preferences' > Dewiswch 'Privacy / Advanced' > ‘Disable / restrict cookies’ 

* Noder y gallai’r gosodiadau uchod amrywio yn dibynnu ar fersiwn y porwr.
 

Pam Rydym yn Casglu Ystadegau Defnyddwyr

Trwy ddeall ymddygiadau a dewisiadau defnyddwyr, rydym yn gallu gwella cynnwys ein gwefan i ddiwallu anghenion a disgwyliadau defnyddwyr

 

 

Gwefannau Allanol

Nid yw'r datganiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i ddolenni allanol; mae casglu gwybodaeth gan wefannau o'r fath yn amodol ar bolisïau preifatrwydd perthnasol. Nid ydym yn gyfrifol nac yn atebol am arferion preifatrwydd gwefannau allanol, ac mae defnyddio gwefannau o'r fath yn ôl eich disgresiwn.