Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Blatfform Digidol GIG Cymru (y wefan hon): https://digitalplatform.nhs.wales/
Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Blatfform Digidol GIG Cymru. Rydym yn ceisio gwneud y wefan hon mor hygyrch â phosibl. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
Os oes angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, Hawdd ei Ddeall, recordiad sain neu braille, cysylltwch â igdc-ymholiadau@wales.nhs.uk yn gyntaf a byddwn yn trosglwyddo eich cais i’r tîm perthnasol. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 10 diwrnod gwaith.
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â igdc-ymholiadau@wales.nhs.uk
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.
Rydym yn gobeithio datrys y problemau hyn erbyn diwedd Ebrill 2025
Er ein bod yn ymdrechu i fodloni ‘WCAG 2.1 AA’, mae gennym y materion canlynol nad ydynt yn cydymffurfio ar hyn o bryd:
Er y byddwn yn blaenoriaethu gwybodaeth am gleifion er mwyn sicrhau ei bod ar gael yn ddigidol lle bynnag y bo modd, gwyddom fod rhai rhannau o’n gwefan o natur gorfforaethol, nad ydynt yn hygyrch ar hyn o bryd ac sydd wedi’u cynhyrchu ers mis Medi 2018.
Ar gyfer yr adrannau hyn, byddwn yn nodi pan fyddwn yn gwybod nad yw dogfennau’n cydymffurfio ac yn darparu manylion cyswllt lle bynnag y bo modd. Wrth i ddogfennau gael eu hadnewyddu yn y dyfodol, byddwn yn sicrhau ein bod yn ystyried hygyrchedd digidol.
Ar hyn o bryd, rhestrir yr adrannau hyn isod: (a gall y rhain newid).
Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, o bryd i’w gilydd mae gennym ni PDFs gyda gwybodaeth am sut i ddefnyddio ein cymhwysiad.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw'n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu trwsio unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018, er enghraifft Papurau Bwrdd a Phwyllgorau, polisïau'r Bwrdd Iechyd a dogfennaeth weithdrefn neu ddogfennaeth statudol fel Adroddiadau Blynyddol. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau Word newydd yn hygyrch lle bynnag y bo modd.
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain neu fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi’i eithrio rhag bodloni’r rheoliadau hygyrchedd. Fodd bynnag, byddwn bob amser yn anelu at ddarparu fersiynau gydag isdeitlau o fidoes a recordiwyd ymlaen llaw.
Rydym yn bwriadu nodi a chywiro problemau yn unol â’r amserlenni a ddangosir ar gyfer pob maes uchod.
Paratowyd y datganiad hwn ym mis Medi 2024. Bydd yn cael ei adolygu ym mis Mawrth 2025.
>Roedd y wefan hon yn cael ei phrofi, ac mae’n dal i gael ei phrofi ar hyn o bryd, i weld a yw’n cydymffurfio â lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe V2.1, ac mae’r profion hyn wedi’u cynnal yn fewnol.