Mae ein Polisi Defnydd Derbyniol yn darparu arfer gorau i ddefnyddwyr ar gyferdefnyddio ein APIs a dylid eu darllen ar y cyd â’n Telerau Cysylltu API.
Dim ond pan fydd gennych sail gyfreithiol i wneud hynny y gellir defnyddio APIs ac maedefnydd yn amodol ar ein proses gynefino.
Os ydych yn bwriadu cyflwyno data, dylech:
Ni ddylech storio data o fewn eich cymhwysiad. Dylech bob amser adfer y data mwyafdiweddar sydd ar gael trwy’r API ar yr adeg y mae eich defnyddwyr ei angen.
Os ydych yn teimlo fod gennych angen arbennig i storio data yn lleol, dylech drafod hyn gydathîm Platfform API IGDC a chael caniatâd penodol ar gyfer y patrwm defnydd hwnnw.
Ni ddylech ymlusgo drwy’r API yn systematig. Bydd yr holl weithgarwch yn cael ei fonitro ac feymchwilir i unrhyw weithgarwch ymlusgo, a gallai arwain at atal neu ddiddymu eich mynediadAPI.
Rydym yn cadw’r hawl i ymchwilio i unrhyw achos o dorri neu gamddefnyddio’r polisi hyn a/neu ein Telerau Cysylltu API, ond heb dderbyn unrhyw rwymedigaeth i wneud hynny.
Gallwn adrodd am unrhyw weithgarwch yr ydym yn amau ei fod yn torri unrhyw gyfraith neureoliad i swyddogion gorfodi’r gyfraith priodol, rheoleiddwyr, neu drydydd partïon priodoleraill. Gall ein hadroddiad gynnwys datgelu gwybodaeth cwsmeriaid briodol.
Mewn achos o danseilio diogelwch, achos lle amheuir tanseilio diogelwch, camddefnydd o’rmanylion, neu wyro oddi wrth y cytundeb defnydd, mae IGDC yn cadw’r hawl i atal neuddirymu mynediad.
Rhaid dylunio cynhyrchion sy’n cael eu defnyddio i fethu’n osgeiddig pan fydd problemau’ncodi. Dyma rai enghreifftiau o broblemau:
Mae cynyddu’r defnydd o wasanaethau Cymraeg wedi’i nodi fel un o flaenoriaethauLlywodraeth Cymru yn ei Strategaeth y Gymraeg 2050. Yn ogystal, roedd SafonauGwasanaethau Digidol Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022, yn pwysleisio’r angen ihyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg fel safon graidd, gan amlygu’r angen i hyrwyddo a hwyluso’rdefnydd o’r Gymraeg o fewn gwasanaethau cyhoeddus digidol.
Mae adran 4.11 o God Ymarfer Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 yn ymwneud â gwefannau a gwasanaethau ar-lein cyrff, gan gynnwysapiau. Y prif nod yw hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, yn unol âe Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r Mesur yn rhoi effaith gyfreithiol i statws swyddogol y Gymraeg drwyalluogi gosod y safonau hyn.
ae dylunio cynnwys yn Gymraeg a Saesneg o’r cychwyn yn fwy effeithlon, yn arbed amser acyn sicrhau bod cyfieithwyr yn deall cyd-destun y cynnwys. Mae papur Comisiynydd yGymraeg ar Ysgrifennu Triawd yn egluro manteision dylunio a chreu cynnwys dwyieithog sy’nystyried y Gymraeg o’r cychwyn cyntaf.
Am gyngor pellach ar Safonau’r Gymraeg, cysylltwch â DHCW.Welshlanguage@wales.nhs.uk neu Gomisiynydd y Gymraeg ar post@cyg-wlc.wales.
Pan fyddwn yn nodi gweithgarwch sy’n mynd yn groes i’r polisi, byddwn bob amser yncyfeirio yn gyntaf at y defnydd y cytunwyd arno rhyngoch chi fel defnyddiwr a ni fel darparwr ygwasanaeth. Am y rheswm hwn, bydd cytundeb ymlaen llaw ynghylch eich achosion defnyddpenodol yn ein helpu ni i sicrhau nad amharir ar eich gwasanaeth yn ddiangen.
Os ydych chi’n dymuno newid eich achos defnydd, bydd angen i chi gyflwyno cais amfynediad wedi’i ddiweddaru.
Os ydyn ni’n credu nad yw eich gweithgarwch yn cydymffurfio â’r polisi hyn a’n TelerauCysylltu API neu ag unrhyw gytundeb penodol sydd gennym, byddwn yn cynnal asesiadeffaith yn gyntaf i benderfynu ar lefel y risg a berir gan eich gweithgarwch.
Mewn achosion lle byddwn yn nodi risg sylweddol i’r gwasanaeth o ganlyniad i’ch defnydd,ein blaenoriaeth fydd diogelu’r gwasanaeth ac felly mae’n bosibl y byddwn yn atal eichmynediad ar unwaith heb rybudd ymlaen llaw.
Os nad ydym yn teimlo bod eich defnydd yn peri risg uniongyrchol, byddwn yn cysylltu â chi idrafod eich defnydd er mwyn cytuno ar ffordd ymlaen, gan roi gwybod am ein bwriad i ataleich mynediad os na fydd y defnydd yn cydymffurfio o fewn amserlen resymol.